Origin: United Kingdom
(Import costs included in the price)
It will be shipped from our warehouse between Monday, July 29 and Wednesday, August 07.
You will receive it anywhere in United States between 1 and 3 business days after shipment.
Y Gymru `Ddu' a'r Ddalen `Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd Mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 (in Galés)
Lisa Sheppard
Synopsis "Y Gymru `Ddu' a'r Ddalen `Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd Mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 (in Galés)"
Dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae'n astudiaeth gymharol sy'n dod a gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd - gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae'n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am `aralledd' - term sy'n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i'r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd a themau megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma'r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol - cymdeithas lle y mae'r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir a seilio hunaniaeth Gymreig ar allu'r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae'r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.